Senedd Cymru | Welsh Parliament
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus | Public Accounts and Public Administration Committee
Teithio Llesol yng Nghymru | Active Travel in Wales
Ymateb gan: Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru | Evidence from: Welsh Local Government Association
Tystiolaeth CLlLC ar gyfer y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Deithio Llesol yng Nghymru
4 Ebrill 2025
Cyflwyniad
1. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli’r 22 Cyngor yng Nghymru, ac mae’r tri awdurdod parc cenedlaethol a’r tri awdurdod tân ac achub yn aelodau cyswllt.
2. Mae CLlLC yn sefydliad trawsbleidiol dan arweiniad gwleidyddol, gydag arweinwyr pob Cyngor yn penderfynu ar bolisi drwy’r Bwrdd Gweithredol a Chyngor ehangach CLlLC. Mae CLlLC hefyd yn penodi uwch aelodau fel Llefarwyr a Dirprwy Lefarwyr i roi arweinyddiaeth genedlaethol ar faterion polisi ar ran llywodraeth leol.
3. Mae CLlLC yn gweithio’n agos gydag ymgynghorwyr proffesiynol a chymdeithasau proffesiynol o lywodraeth leol ac mae’n cael cyngor ganddynt yn aml. Fodd bynnag, CLlLC yw’r corff sy’n cynrychioli llywodraeth leol ac yn darparu llais gwleidyddol cyfun i lywodraeth leol yng Nghymru.
Teithio Llesol yng Nghymru
4. Yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Archwilio Cymru ar Deithio Llesol, anfonodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd wahoddiad i gynrychiolydd o CLlLC i fynychu’r pwyllgor ddydd Mercher 22 Ionawr gyda chydweithwyr o lywodraeth leol.
5. Ar 12 Chwefror cawsom wahoddiad i ystyried cyflwyno ymateb ysgrifenedig i’ch ymchwiliad. Isod rydym yn nodi rhai pwyntiau ar gyfer eich cwestiynau penodol a rhai pwyntiau cyffredinol am deithio llesol yng Nghymru.
Cynllun cyflawni teithio llesol newydd Llywodraeth Cymru, gan gynnwys unrhyw fylchau
6. Cyhoeddwyd y cynllun cyn i’r trafodaethau ddechrau o ran moderneiddio grantiau cludiant lle yr awgrymwyd y dylid datganoli yr holl gyllid cludiant lleol i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Nid yw’n eglur sut y bydd awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Teithio Llesol, Adran 7 (1) (i) ‘ sicrhau bod
(a) llwybrau teithio llesol newydd a chyfleusterau cysylltiol, a
(b) gwelliannau i lwybrau teithio llesol presennol a’r cyfleusterau cysylltiol,
yn eu hardal’.
os bydd cyllid ar gyfer teithio llesol yn cystadlu yn erbyn prosiectau cludiant rhanbarthol sy’n fwy strategol. Felly, rydym yn argymell y dylid cynnal y dyraniad craidd ar gyfer Cynghorau er mwyn i Gynghorau allu parhau i gyflawni eu dyletswyddau, gan wneud gwelliannau (lleol) a datblygiadau i’w rhwydweithiau.
7. Fel y nodwyd yn y drafodaeth yn ystod cyfarfod diweddar rhwng Aelod Cabinet Gogledd Cymru a Chludiant, Ken Skates, ac Arweinwyr Cynghorau, nid oes cytundeb eto o ran sut y dylid dyrannu cyllid i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig. Mae gwahanol safbwyntiau ymysg Cynghorau o ran a ddylai rhywfaint o gyllid gael ei ddefnyddio ar gyfer ‘dyraniad haen uchaf’ ar gyfer prosiectau cludiant parhaus ac a ddylai rhywfaint o gyllid craidd gael ei ddyrannu’n uniongyrchol iddynt er mwyn gallu mynd i’r afael â materion cludiant lleol, a byddai mwyafrif y prosiectau teithio llesol yn cyfrif fel mater cludiant lleol.
8. Mae hefyd yn aneglur pa rôl fydd gan Drafnidiaeth Cymru o ran dyrannu cyllid, craffu a chynorthwyo i ddarparu prosiectau pe byddai holl grantiau cludiant lleol gan gynnwys y Gronfa Teithio Llesol yn cael eu datganoli i’r Cyd-bwyllgorau Corfforedig.
9. Dylid diweddaru’r cynllun ar ôl gwneud penderfyniadau o ran moderneiddio’r grantiau a phan fydd rolau a chyfrifoldebau y gwahanol sefydliadau sy’n ymwneud â theithio llesol yn fwy eglur.
Cyfleoedd ar gyfer gwella prif ffrydio ystyriaethau teithio llesol mewn polisïau a rhaglenni ehangach.
10. Dylai Llywodraeth Cymru barhau i brif ffrydio teithio llesol mewn polisi cludiant ehangach, gan sicrhau bod datrysiadau cludiant yn gwbl hygyrch a theg, gan roi gwir ddewisiadau i bobl gan gyfrannu at nodau lles a datgarboneiddio ehangach ac alinio â’r cyfeiriad polisi ehangach. Pe byddai Llywodraeth Cymru’n arwain ar hyn, yna byddai’r ymagwedd yn cael ei hidlo i lefel ranbarthol a lleol. Dylai Llywodraeth Cymru arwain drwy esiampl gan gydweithio ar draws yr adrannau gydag adfywio, datgarboneiddio, iechyd, addysg a chynllunio i wneud y mwyaf o’r buddion ac osgoi blaenoriaethau sy’n gwrthdaro.
Rôl ddatblygol Trafnidiaeth Cymru fel rhan o drefniadau cyflawni ar gyfer teithio llesol.
11. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi creu tîm sylweddol gydag arbenigedd mewn teithio llesol nad oedd yn bodoli yng Nghymru’n flaenorol. Dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig a Chynghorau eu defnyddio yn y dyfodol beth bynnag fydd y trefniadau cyllid a gytunir. Er mwyn cyflawni newid ar y raddfa a ddymunir gan y Ddeddf Teithio Llesol ac er mwyn gweld newidiadau gwirioneddol mae angen buddsoddi mewn tîm gydag adnoddau (yn Nhrafnidiaeth Cymru) sy’n gallu cefnogi’r Cynghorau i gyflawni, a chyllid parhaus a chydunol ar gyfer isadeiledd a newid ymddygiad dros gyfnod hirach.
12. Er bod rhai problemau cychwynnol o ran Trafnidiaeth Cymru’n gweinyddu cyllid teithio llesol a phrosesau gor-gymhleth, biwrocrataidd a beichus, mae modd gweld effaith gweinyddu cyllid gan Drafnidiaeth Cymru yn yr effeithiolrwydd o ran sicrhau bod y Gronfa Teithio Llesol wedi’i dyrannu yn unol â’r safonau dylunio gan sicrhau bod llwybrau newydd sy’n cael eu creu yn hygyrch ac yn annog cynhwysiant. Mae rhai Cynghorau wedi’u gorlethu gan WelTAG a’r dyletswyddau adrodd ac mae timau llai yn aml wedi gorfod defnyddio ymgynghorwyr allanol. Wrth edrych tua’r dyfodol dylid symleiddio biwrocratiaeth cymaint â phosibl er mwyn sicrhau y gall timau sydd dan bwysau o fewn Cynghorau wneud y mwyaf o’u hymdrechion i gyflawni’r gwaith.
13. Mae Cynghorau wedi elwa o hyfforddiant Academi Teithio Llesol ar gyfer staff y Cyngor ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi darparu pecyn gwaith hyrwyddo teithio llesol y bu aros hir amdano.
14. Rydym hefyd yn croesawu bod Trafnidiaeth Cymru yn datblygu cynlluniau i wella integreiddiad teithio llesol gyda chludiant cyhoeddus, gan ei gwneud yn haws cerdded a beicio fel rhan o daith hirach a gwella cynaliadwyedd teithio ar reilffordd drwy leihau dibyniaeth ar deithio mewn car i ac o’r gorsafoedd. Yn ddiweddar, mae Trafnidiaeth Cymru wedi darparu teclyn Blaenoriaethu ar gyfer llwybrau a Fframwaith Monitro Teithio Llesol.
Rôl a gweithgareddau Bwrdd Teithio Llesol Llywodraeth Cymru
15. Mae gan CLlLC 5 sedd ar y Bwrdd Teithio Llesol a adnewyddwyd, un swyddog a 4 cynrychiolydd rhanbarthol o’r Cynghorau. Mae CLlLC yn croesawu’r rôl gryfach o ran craffu ac yn falch bod y Bwrdd wedi cynhyrchu adroddiad blynyddol, lle bo’r Bwrdd wedi tynnu sylw a rhannu arferion da’r Cynghorau.
16. Mae is-grwpiau’r Bwrdd ar Deithio Llesol i’r Ysgol a Theithio Llesol Cynhwysol wedi cyflwyno argymhellion cadarnhaol ac ymarferol yn eu meysydd perthnasol. Mae’r grŵp Teithio Llesol Cynhwysol wedi ystyried tynnu rhwystrau ac yn awgrymu ymyraethau fforddiadwy sy’n cael eu harwain gan y gymuned a allai gynorthwyo i sicrhau bod teithio llesol yn fwy hygyrch i bawb. Mae’r grŵp Teithio Llesol i’r Ysgol yn uno sawl ffrwd waith a sefydliadau sy’n gweithio yn y maes ac yn gymorth i sicrhau bod gwybodaeth yn fwy hygyrch i Gynghorau. Mae grŵp Teithio Llesol i’r Ysgol wedi bod yn cydweithio i fapio a deall y pellteroedd y mae’n rhaid i blant eu teithio i’r ysgol ledled Cymru er mwyn gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth o ran blaenoriaethu ymyraethau.
Gwariant teithio llesol Llywodraeth Cymru a sut y caiff ei rannu a’i flaenoriaethu rhwng gwahanol gynlluniau a mathau o ymyraethau.
17. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cynghorau wedi croesawu mwy o gyllid ar gyfer teithio llesol (er ni chroesawyd y ffaith bod hyn wedi dod ar draul rhai grantiau cludiant eraill). At hynny, ni fu modd i’r holl Gynghorau wneud cais am brosiectau oherwydd diffyg capasiti ac adnoddau mewnol. Mae materion eraill sy’n gwneud darpariaeth yn anodd ac oni bai y gellir mynd i’r afael â’r rhain a chynnal y lefelau cyllid, bydd darpariaeth yn amrywiol.
18. Yn gyntaf, mae dyrannu cyllid yn flynyddol yn cymhlethu darpariaeth prosiectau yn sylweddol, gan fod y mwyafrif ohonynt yn cymryd mwy na blwyddyn i’w cwblhau. Mae hyn yn creu sawl problem. Mae darparu llwybrau teithio llesol mewn cyfnod o flwyddyn, heb unrhyw warant y bydd cyllid ar gael y flwyddyn ganlynol, yn golygu y darperir llwybrau mewn rhannau nad oes modd eu defnyddio. Mae pobl yn annhebygol o ddefnyddio llwybr nad yw’n galluogi taith ddiogel o ddrws i ddrws. Mae ansicrwydd o ran hyd y cyllid hefyd yn golygu na all y Cynghorau fuddsoddi mewn recriwtio a chadw staff ac yn aml mae’n rhaid iddynt ddibynnu ar ymgynghorwyr.
19. Yn ail, mae bron holl gyllid teithio llesol yn gyllid cyfalaf. Mae diffyg cyllid refeniw yn golygu bod datblygu rhaglenni newid ymddygiad effeithiol yn anodd. Mae diffyg cyllid refeniw hefyd yn golygu nad oes digon o arian i gynnal llwybrau ac er bod y Ddeddf Teithio Llesol yn ei gwneud yn ofynnol i Gynghorau ddarparu llwybrau newydd nid yw’n creu dyletswydd i’w cynnal a’u cadw.
Unrhyw bryderon eraill mewn perthynas â chyflawni uchelgeisiau teithio llesol Llywodraeth Cymru.
20. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo ystyried teithio llesol mewn ardaloedd gwledig, ond ni chynhyrchwyd unrhyw ganllawiau penodol o ran hyn. Mae cyfle i Lywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru gydweithio gyda Theithio Llesol Lloegr sy’n gwneud gwaith ar y mater ar hyn o bryd.
21. Mae Cynghorau gwledig yn tynnu sylw at y broblem nad yw llwybrau hamdden ar gyfer cerdded a beicio yn gymwys ar gyfer cyllid teithio llesol. Ac er na ddylid tanbrisio pwysigrwydd teithio llesol fel cymhelliant i newid dull a lleihau teithiau mewn ceir, mae hefyd yn bwysig cydnabod buddion iechyd a hamdden a geir drwy gerdded, beicio a mynd ar olwynion.
22. Mae’n hanfodol datblygu’r hyder a’r sgiliau (yn enwedig ar gyfer plant) i gerdded a beicio er mwyn meddu ar y gallu a’r hyder i deithio mewn dull llesol i fynd i’r ysgol neu’r gwaith. Mae niferoedd poblogaeth is mewn ardaloedd gwledig yn golygu mai anaml y bydd llwybrau’n cael eu blaenoriaethu o gymharu â llwybrau mewn ardaloedd trefol gyda photensial uwch ar gyfer newid dulliau teithio. Mae angen ymagwedd sy’n fwy cyfannol i integreiddio’r elfennau cludiant, iechyd, lles a hamdden a geir wrth gerdded, beicio a mynd ar olwynion.
23. Mae cyfle i feddwl yn fwy creadigol mewn ardaloedd gwledig, gan ddefnyddio llwybrau oddi ar y ffordd o bosib ac ystyried prynu tir i greu llwybrau y tu ôl i lwyni ar lonydd gwledig er mwyn gallu creu rhwydweithiau o lwybrau i gysylltu gwahanol ardaloedd. Mae integreiddio gyda chludiant cyhoeddus yn allweddol mewn ardaloedd sy’n fwy gwledig lle bo gwasanaethau fel arfer yn bellach.
24. Mae hefyd yn bwysig cydnabod nad yw un cynllun yn addas ar gyfer pob topograffeg a lleoliad, ond mae modd cydnabod y gall teithio llesol fod yn ddatrysiad ar gyfer y mwyafrif o bobl ar gyfer teithiau byr mewn amgylchedd trefol a gwledig. Mae adroddiad Pedestrian Pound gan Living Streets a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi bod 65% o boblogaeth Cymru yn byw mewn ardaloedd trefol, o gymharu â 35% mewn ardaloedd gwledig. Mae 86% o’r boblogaeth yn byw o fewn 5 milltir o ganol tref a 44% o fewn milltir.
25. Mae angen i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion arwain ar newid ymddygiad a chyfathrebu. Gall Cynghorau gefnogi negeseuon a hyrwyddo’n lleol.
26. Mae staffio o fewn llywodraeth leol yn rhwystr allweddol ar gyfer y gallu i gynllunio, gweithredu a monitro cynlluniau teithio llesol. Mae Cynghorau’n aml yn wynebu heriau recriwtio a chadw, gan gynnwys rhai aelodau o staff yn symud i Drafnidiaeth Cymru.
27. Maes sydd heb ei ystyried yn ddigonol gan Lywodraeth Cymru yw sut mae pobl yn teithio i’r gwaith. Mae CLlLC wedi cynhyrchu Canllawiau i gefnogi Cynghorau i annog staff i deithio’n fwy cynaliadwy - CLlLC. Mae’r mesurau’n cynnwys annog y defnydd o gludiant cyhoeddus, cynllunio teithiau, mynediad at feiciau, rhannu ceir ac ati. Dylai Llywodraeth Cymru gefnogi’r canllaw ac arwain drwy esiampl, gan sicrhau bod eu polisi teithio wedi’i ddiweddaru ac archwilio ffyrdd o gefnogi’r sector cyhoeddus cyfan i gymudo’n fwy cynaliadwy.
Casgliad
28. Dylai Llywodraeth Cymru barhau ar hyd eu ‘Llwybr Newydd’, gan barhau i weithio tuag at sicrhau mai teithio llesol yw’r ffordd fwyaf naturiol o wneud teithiau dyddiol byr. Rydym yn gwybod mai dyma’r peth iawn ar gyfer pobl, cymunedau, cydraddoldeb, yr amgylchedd, iechyd a’r economi (eto fel yr amlygwyd yn yr adroddiad ‘Pedestrian Pound’ y cyfeiriwyd ato yn gynharach). Mae angen sicrhau bod lle blaenllaw ar gyfer teithio llesol wrth gynllunio cludiant, cynllunio defnydd tir a hyrwyddo iechyd ac atal salwch a gordewdra. Mae integreiddio dulliau, isadeiledd diogel a llwybrau parhaus i leoliadau’n allweddol er mwyn sicrhau cyfleustod ac atyniad ar gyfer defnyddwyr. Bydd symleiddio teithio llesol, yn hytrach na’i hyrwyddo fel nod yn ei hun, yn gymorth i gael mwy o gefnogaeth, gan osgoi cythruddo pobl ac yn hytrach eu helpu i ddeall bod isadeiledd teithio llesol yn cael ei adeiladu ar gyfer pob un er mwyn cyrraedd lleoedd (gan gynnwys rhai sy’n methu â gyrru neu nad oes ganddynt gar) a rhoi gwir ddewis i bawb o ran dull teithio.